Croeso
Mae Stiwdio Aran wedi ei leoli yn Groeslon ger Caernarfon. Mae'r stiwdio ar gael i'w llogi ac mae'n cael ei ddefnyddio i recordio deunydd ar gyfer ein label - Recordiau Aran, a'r cwmni cyhoeddi - Cyhoeddiadau Aran.
- Chwiliwch am gerddoriaeth trwy ddefnyddio enw'r artist, teitl y record neu'r arddull gerddorol.
- Gwrandewch ar esiamplau sy'n cael ei ffrydio.
- Archebwch cryno ddisgiau trwy archeb post.
- Tra bod y CD yn cael ei ddosbarthu, byddwn yn darparu dolen ichi er mwyn llwytho i lawr y ffeiliau mp3.
Deunydd Diweddaraf:
Deryn Glan i Ganu
Caneuon i Ysbrydoli gan Lais Newydd, Cyffrous
Mae Artist newydd, ifanc wedi ymddangos yn y byd canu gwlad, gyda’r record gyntaf yn dangos bod ganddi llawer iawn i gynnig. Ceir 12 o ganeuon hollol wreiddiol gan Emma Marie sy’n cynnwys ‘Robin Goch’, cân sydd yn gyfarwydd iawn i wrandawyr rhaglenni Radio Cymru ar nos Sadwrn a nos Sul.
Penderfynodd Emma ysgrifennu’r gân yma ar ôl cyfnod anodd yn dilyn colled fawr iddi hi a’i gŵr. Penderfynodd Emma ysgrifennu’r gân yma ar ôl cyfnod anodd yn dilyn colled fawr iddi hi a’i gŵr.
“Mi wnes i gyfeiliant syml ar y keyboard” meddai Emma “a rhoi fy nghân ar Facebook lle'r oedd llawer o bobl wedi ymateb ac yn hoff iawn ohoni.”
Hir a Hwyr
John ac Alun wrth y llyw
Mae’n deng mlynedd ers i John ac Alun rhyddhau record hir newydd, ac fel mae’r teitl yn awgrymu, mae ‘na chryn ddisgwyl wedi bod amdani. Yn rhannol, y rheswm am yr oedi yma oedd dymuniad yr hogia’ i lywio pob agwedd o’r gwaith, hynny o safbwynt pa ganeuon i’w recordio, pa fath o deimlad ddylai fod arnyn nhw a pha fath o gynhyrchiad fyddai’n siwtio orau.
Yng nghartre’ Alun yn Nhudweiliog recordiwyd y cwbl, dros gyfnod o ddwy flynedd. Alun sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r trefniadau â’r offerynnau ar y record yma hefyd,
O Nunlla
Seidar ar y Sul a chân ar gyfer pob diwrnod arall o'r wythnos, ar y record hir cyntaf gan Phil Gas a'r Band
Cafodd sengl cyntaf Phil Gas a’r Band, ‘Seidar ar y Sul’ ei ryddhau yn fis Tachwedd 2017. Poblogrwydd ysgubol y trac hwnnw oedd y sbardun i’r band parhau i ddatblygu deunydd newydd, a’i recordio. Cafodd 10 o ganeuon ei ddethol ar gyfer y casgliad yma ac mae 8 ohonynt yn rhai gwreiddiol i’r band.
Hanner Can Mlynedd ar y Brig
Côr Meibion Caernarfon yn Dathlu eu Penblwydd yn 50
Pa well ffordd i gôr meibion ddathlu ei ben blwydd yn 50 oed na chyhoeddi CD i bawb gael rhannu gwledd gerddorol.Pa well ffordd i gôr meibion ddathlu ei ben blwydd yn 50 oed na chyhoeddi CD i bawb gael rhannu gwledd gerddorol.
Ffurfiwyd “Côr Ferodo” yn Ffatri Leinin Brêcs Ferodo ar lannau’r Fenai yn Nhachwedd 1967. Er i’r ffatri gau, ‘does dim brêc ar ganu brwdfrydig y Cofis. Wedi 50 mlynedd ar y brig mae Côr Meibion Caernarfon, fel y’i gelwir bellach, yn dal i ddiddanu cynulleidfaoedd. Dros y blynyddoedd, perfformiwyd ar brif lwyfannau Prydain. Teithiwyd yn helaeth ym Mhrydain, Iwerddon, cyfandir Ewrop a gogledd America. Enillwyd naw gwaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Yn Y Gorllewin
O’r Pync i’r Gwerin-roc ar draws deugain mlynedd
Blwyddyn yma mae’r band o Gaernarfon, ‘Y Cyffro’ yn dathlu 40 mlynedd trwy ryddhau’r record hir ‘Yn y Gorllewin’, ar label Aran. Mae’n gyfle felly i holi Derek Hughes (gitâr rhythm) a Dave Roberts (gitâr flaen) ynglŷn â hanes diddorol y grŵp.Blwyddyn yma mae’r band o Gaernarfon, ‘Y Cyffro’ yn dathlu 40 mlynedd trwy ryddhau’r record hir ‘Yn y Gorllewin’, ar label Aran. Mae’n gyfle felly i holi Derek Hughes (gitâr rhythm) a Dave Roberts (gitâr flaen) ynglŷn â hanes diddorol y grŵp.
Yn fuan ar ôl sefydlu yn 1978 fe gafodd y band y cyfle i ware gig yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a chynhaliwyd yng Nghaerdydd y flwyddyn honno. “Roeddwn ni’n cefnogi’r Trwynau Coch yng nghlwb yr Arms Park” meddau Derek, “ ac roedd hwnnw’n cychwyn perthynas agos lle buom ni’n cefnogi nhw yn aml, yn llefydd fel Corwen ac yn Nhanybont yng Nghaernarfon wrth gwrs”.