Peintio'r Byd yn Goch
£1.99

Mae John ac Alun yn peintio'r byd yn goch efo'i sengl newydd.

Wedi'i chymryd o'i albwm newydd 'Cyrraedd y Cychwyn' bydd allan ar Hydref 25ed 2019, mae'r sengl yma yn dathlu'r arddull o ganu gwlad 'bluegrass' a wnaed mor boblogaidd gan Johnny Cash. Tra bod y gerddoriaeth yn gwbl Americanaidd, bydd y testun yn un cyfarwydd iawn i'r gynulleidfa Gymraeg. Mae ganddo thema efengylaidd, sy'n disgrifio sut mae'r byd yn cael ei thrawsnewid o ddu'r pagan i goch Cristnogaeth. Mi fydda benillion tebyg wedi bod yn gyfarwydd iawn yn ystod y diwygiadau crefyddol a welwyd yn ystod y deunawfed ac ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.

Mae'n cynnig arwyddocâd i'r gân sy'n addas iawn mewn teyrnged i Johnny Cash. Roedd nifer o'i ganeuon ef yn perthyn ar themâu epig neu grefyddol.

 

Wedi'i gynhyrchu gan Meilyr Rhys, mae John ac Alun wedi paratoi fideo i gefnogi rhyddhau 'Peintio'r Byd yn Goch'. Mae'n dilyn y ddeuawd ar siwrne i un o'r nifer o gigiau maent yn cynnal ar hyd a lled Gymru. Nid yw pob dim yn mynd yn iawn ar hyd y ffordd ac mae'n rhaid iddynt chwilio am unrhyw fath o drafnidiaeth sydd ar gael er mwyn cyrraedd diwedd y daith mewn pryd.

Mae'r trac dim ond ar gael trwy lawr llwytho o'r safle yma.

 

peintior byd yn goch mid2

llun gan Meilyr Rhys

Yn y 'cart', ar ôl cwblhau'r proses 'checkout', ewch i 'My Profile'. Bydd 3 tab yn ymddangos gan gynnwys 'downloads'. Ewch i hwnnw, lle bydd yn bosib llawr llwytho eich ffeil mp3.

FaLang translation system by Faboba