O Nunlla
£12.99

Seidar ar y Sul a chân ar gyfer pob diwrnod arall o'r wythnos, ar y record hir cyntaf gan Phil Gas a'r Band

Cafodd sengl cyntaf Phil Gas a’r Band, ‘Seidar ar y Sul’ ei ryddhau yn fis Tachwedd 2017. Poblogrwydd ysgubol y trac hwnnw oedd y sbardun i’r band parhau i ddatblygu deunydd newydd, a’i recordio. Cafodd 10 o ganeuon ei ddethol ar gyfer y casgliad yma ac mae 8 ohonynt yn rhai gwreiddiol i’r band.

 

Fel byddai rhywun yn disgwyl, mae caneuon yma sy’n datblygu’r fformiwla gyfarwydd o ddathlu miri a ffraethineb. Mae 'Ti ar fy meddwl’ a ‘Mali a fi’ yn ffefrynnau yn berfformiadau byw'r band yn barod, yn egnïol ac yn wledd o harmonïau lleisiol y band cyfan.

Ond mae yna amrywiaeth mawr yn nhestunau'r caneuon eraill; caneuon sy’n trafod serch, pwysau bywyd ac iselder yn y termau mwyaf sensitif ag onest. Gwelwn hefyd sawl cyfeiriad i’w cynefin, sef Dyffryn Nantlle. Mae teitl y CD yn gyfeiriad slei i hwnnw ag i ddatblygiad sydyn y grŵp. Ond mae yna amrywiaeth mawr yn nhestunau'r caneuon eraill; caneuon sy’n trafod serch, pwysau bywyd ac iselder yn y termau mwyaf sensitif ag onest.

Gwelwn hefyd sawl cyfeiriad i’w cynefin, sef Dyffryn Nantlle. Mae teitl y CD yn gyfeiriad slei i hwnnw ag i ddatblygiad sydyn y grŵp. Efallai’r trac sy’n ymgorffori’r hoff elfennau yma yw “Yncl John, John Watkin Jones”, sy’n agor y casgliad. Teyrnged gan Phil, i ffigwr adnabyddus iawn yn y gymuned. Eto, clywn gyfeiriadau diri i nodweddion lleol, ond mae’r themâu sy’n cael ei thrafod yn rhai fedrith pawb deall.

 

1. Yncl John, John Watkin Jones
2. Yn yr Ardd
3. Ffonia dy ffrindia
4. Does neb yn gwrando dim
5. Cychod Wil Amer
6.Ti ar fy meddwl
7. Mali a fi
8. Dinas Dinlle.mp3
9. Wagon Wheel.mp3
10. Seidar ar y Sul

 

 

Release Date: September 7th 2018

https://www.facebook.com/philgasarband/

FaLang translation system by Faboba