Mesen Fach
£1.99

Sengl i Ddathlu Aelod Newydd i'r Band

Mae Tudur Huws Jones wedi ymuno gyda Phil Gas a'r Band fel aelod llawn amser. Fe wnaeth cyfraniad pwysig i sawl gân ar yr albwm 'O Nunlla' a phan roedd rhaid edrych am aelod newydd i gymryd lle'r gitarydd Dylan Evans, Tudur oedd y dewis cyntaf.

Mae Tudur wedi bod yn un o gerddorion amlycaf Cymru ers sawl degawd bellach, yn cydweithio gyda Dafydd Iwan, Bryn Fôn a Siân James, a hefyd yn aelod o’r grwpiau Cilmeri, 4 yn y Bar, Branwen a Gwerinos. Bu iddo hefyd ryddhau’r albwm unigol ‘Dal i Drio’ yn 2004.

 

Fe glywir banjo Tudur yn y gân yma, sy'n trafod pwysigrwydd yr amgylchedd a byd natur mewn arddull gelfydd a hudolus. Mae'r trac yma ar gael i lawr lwytho yn unig o Hydref y 4ydd, a dim ond o'r safle yma.

 

 

 

 

2019.09.19 Phill gas ar band yn doks dre 49 web

llun gan Dylan Wyn Williams Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. 

FaLang translation system by Faboba