Voice Channels
Deunydd o ansawdd wedi'i recordio i'r safon uchaf

Recordiau Aran

Sefydlwyd y label yn 2006 fel ffynhonnell ychwanegol i waith y cynhyrchydd Emyr Rhys.  Dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae wedi gweithio â nifer o'r artist Cymraeg amlycaf, gan gynnwys:

Band Cory • Band Parc & Dare • Band Beaumaris • Bryn Terfel • Cantorion Teifi • Carreg Lafar • Catatonia • Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC • CF1 • Côr Godre’r Aran • Côr Meibion Pontarddulais • Côr Meibion Orffiws Treforus • Côr Meibion Pendyrus Male Voice Choir • Côr Rhuthun • Côr Seiriol • Gwerinos • Gwyn Evans a Dr Jazz • Hogia Llandegai • Jane Watts • John ac Alun • Osian Ellis • Pigyn Clust • Margaret Williams • Mary Lloyd Davies • Mike Peters • Sarah Louise • Siwan Llynor • Susan Bullock • Trebor Edwards • Yr Anrhefn

Mae Recordiau Aran yn cynnig y pecynau canlynol i ddarpar artistiaid :-

Pecyn Un - Pecyn Recordio Cyflawn

Recordio ar leoliad neu yn y stiwdio dros 2 ddiwrnod

Peiriannydd Sain a Chynhyrchydd profiadol

  • golygu a mastro'r deunydd gan ddarparu copi o'r mastr ar gyfer cymeradwyaeth gan yr artist
  • Cynllunio clawr lliw llawn trwy gynllunydd proffesiynol a darparu proflen ar gyfer cymeradwyaeth gan yr artist
  • trefnu a thalu am drwydded gan yr MCPS i ryddhau unrhyw gerddoriaeth sydd o dan hawlfraint
  • dyblygu CD'iau a chloriau lliw llawn
  • dosbarthu copiau rhad ac am ddim i'r cyfryngau a'r wasg
  • Neilltuo tudalen we ar ein gwe fan i'r artist gan gynnwys clipiau MP3 o'r record a dolenni i safle'r artist.
  • cynnig a dosbarthu'r CD gorffenedig i'r siopau
  • derbyn archebion post gan y cyhoedd trwy stiwdioaran.com a derbyn archebion dros y ffon efo cerdyn credit
  • cynnig y recordiad trwy'r prif gwasanaethau ffrydio fel Apple Music a Spotify 
  • talu ar draws 6 mis er mwyn fedru arianu'r recordio trwy werthiant.

Gwasanaethau ychwanegol:-

  • trefnu a pharatoi traciau cefndir
  • ychwanegu offerynnau i'r recordiad er mwyn cyfoethogi'r cyfeiliant
  • diwrnodau ychwanegol ar gyfer recordio
  • cynllun credyd talu dros 12 mis

Cysylltwch â ni am brisiau.

Pecyn 2 - Ryddhau ar label Aran

Record wedi'i pharatoi yn barod?
Neu adnoddau recordio annibynol gennych?

Mae pecyn dau yn union fel pecyn un ond efo'r gwaith recordio/golygu/mastro wedi'i chwblhau yn barod

Dyma'r manteision o ryddhau record trwy Recordiau Aran:-

  • Mae sawl ffynhonnell o incwm yn bosib wrth ryddhau record masnachol. I fanteisio arnynt i gyd rhaid sicrhau fod pob elfen o'r record a'i deunydd wedi ei gofrestri efo'r mudiadau cywir.
    Mae Recordiau Aran wedi cofrestri hefo'r PPL (Phonographic Performance Limited). Trwy gyflwyno gwybodaeth catalog iddynt daw taliadau i berfformwyr sy'n gofrestredig efo'r PRC neu PAMRA.
    Mae Cyhoeddiadau Aran wedi cofrestri hefo'r MCPS a'r PRS. Gallwn sicrhau taliadau i awduron a chyfansoddwyr am eich defnydd yn sgil unrhyw ddarllediad, a gweithio gyda chi i hyrwyddo'r defnydd yma. Gallwn hefyd sicrhau bod unrhyw ddefnydd sydd o dan hawlfraint wedi'i drwyddedu yn iawn a bod pob caniatad yn ei le.
    Rydym yn hyrwyddo a marchnata ein deunydd trwy'r cyfryngau a'r wasg yn ogystal a thrwy stiwdioaran.com.
    Mae pob mastr gan Recordiau Aran yn derbyn côd ISRC (INTERNATIONAL STANDARD RECORDING CODE) sy'n hwyluso gwaith y darlledwyr

Cysylltwch â ni am brisiau.

Pecyn Tri - Pecyn 'Demo'

  • Diwrnod o waith recordio (ar gyfer chwech neu saith o eitemau)
  • yn cynnwys defnydd o neuadd clasurol efo piano 'Steinway' grand
  • cost tiwnio'r piano ar gyfer y sesiwn yn gynwysiedig
  • golygu a mastro'r deunydd gan ddarparu copi o'r mastr ar gyfer cymeradwyaeth gan yr artist
  • Cynllunio clawr lliw llawn trwy gynllunydd proffesiynol a darparu proflen ar gyfer cymeradwyaeth gan yr artist

Cysylltwch â ni am brisiau.