stiwdioaranAr leoliad mewn neuadd neu mewn eglwys, mae gennym ni'r adnoddau i ymateb i unrhyw sefyllfa.Recordio yn Llanber crop

 

 

 

Mae ein hoffer recordio symudol yn cynnwys yr adnodd i recordio naill ai i stereo neu i amldrac. Y mae hwn yn ein galluogi ni i ddefnyddio rhai o'r lleoliadau gorau o ran acwstig. Y mae hwn yn ddelfrydol ar gyfer deunydd clasurol yn enwedig. Gallwn deithio i'r ardal sydd mwyaf cyfleus i gôr neu fand er mwyn gwneud y proses yn hwylus i bawb.

Gan ein bod ni wedi paratoi recordiau ym mhob cwr o Gymru a thu hwnt, mae'n bosib i ni awgrymu lleoliadau addas. mae nifer o'r lleoliadau yma yn cynnwys piano neu organ o safon. Os nad oes offeryn addas ar gael, gallwn drefnu llogi piano da trwy ein rhwydwaith o gwmnïau sy'n cynnig y gwasanaeth yma. Opsiwn poblogaidd arall (ar gyfer eitemau clasurol ysgafnach) ydy paratoi traciau cefndir yn Stiwdio Aran cyn canu i'r traciau yma 'ar leoliad' gan ddefnyddio ein sustem sain bwrpasol.

Llwytho lower res

 

 

 

 

 

FaLang translation system by Faboba